Mae un o sêr y ffilm Willy Wonka And The Chocolate Factory – Denise Nickerson – wedi marw yn 62 oed.

Roedd yr actores o’r Unol Daleithiau fwyaf enwog am bortreadu y cymeriad Violet Beauregarde yn yr addasiad ffilm boblogaidd o nofel Roald Dahl yn 1971.

Bu Denise Nickerson yn sâl ers cael trawiad ar y galon y llynedd, a bu farw o ganlyniad i nifer o broblemau iechyd.

Mewn neges gryno ar wefan Facebook, dywedodd ei theulu: “Mae wedi mynd.”

Roedd Denise Nickerson ymhlith yr actorion ifanc a serenodd yn Willy Wona And The Chocolate Factory ochr yn ochr â Gene Wilder, oedd yn portreadu ‘Willy Wonka’ ei hun.

Roedd ei chymeriad yn un o’r plant a gafodd gyfle i ymweld â ffatri ryfedd y dyn ecsentrig wedi iddyn nhw gael eu bachau ar docyn aur.

Roedd Denise Nickerson hefyd yn enwog am bortreadu’r cymeriad ‘Amy Jennings’ yn y ddrama deledu am fampirod, Dark Shadows, yn yr 1960au.