Mae National Theatre Wales (NTW) wedi cyhoeddi bod eu Cyfarwyddwr Artistig yn bwriadu rhoi’r gorau i’r gwaith.

Fe gafodd Kully Thiarai ei phenodi yn 2016, ac ers hynny mae wedi bod ynghlwm â 25 prosiect gan gynnwys City of the Unexpected, We’re Still Here a Tide Whisperer.

Mi fydd yn gadael y cwmni er mwyn bod yn Gyfarwyddwr Creadigol ar Leeds 2023, sef gŵyl ddiwylliannol ryngwladol a fydd yn cael ei chynnal yn y ddinas honno.

Mae’r broses o ddod o hyd i oynydd wedi dechrau, ond mae disgwyl iddi barhau yn ei rôl bresennol tan ddiwedd y flwyddyn.

Diolchiadau

Mae Kully Thiarai yn dweud ei bod “wrth ei bodd” â’r ffaith ei bod yn dychwelyd i Swydd Efrog, ac mae wedi diolch gweithwyr ei chorff am ei gwaith dros y tair blynedd diwethaf.

“Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r holl staff, artistiaid, mudiadau a chymunedau gwych yr wyf wedi cael y fraint o weithio gyda hwy yn NTW,” meddai.

“Rwy’n falch o’r gwaith yr ydym ni wedi’i greu gyda’n gilydd, o’r epig i’r agos-atoch, ac rwy’n gwbl hyderus y bydd y 10 mlynedd nesaf i’r cwmni mor fywiog ac arbennig ag y bu’r degawd diwethaf.”