Mae trefnwyr Llyfr y Flwyddyn newydd gyhoeddi enwau’r beirniaid sydd wrthi ar hyn o bryd yn darllen y llyfrau yn y ras am y wobr.

Ar y panel Cymraeg eleni y mae’r darlledwr, Dylan Ebenezer; Pennaeth Adran Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth, Cathryn Charnell-White; a’r bardd, Idris Reynolds, cyn-enillydd Llyfr y Flwyddyn 2017.

Fe fydd y panel hwn – ynghyd â phanel o dri sy’n tafoli’r llyfrau Saesneg a gyhoeddwyd yn ystod 2018 – yn penderfynu pa weithiau fydd yn dod i’r brig yn y tri chategori Barddoniaeth, Ffuglen, a Ffeithiol Greadigol. Fe fydd un prif enillydd hefyd yn y ddwy iaith.

Rhestr fer a’r noson fawr

Fe fydd Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2019 yn cael ei chyhoeddi ar Fai 10, ac fe fydd cyfle i ddarllenwyr leisio barn ar lyfrau’r Rhestr Fer drwy bleidleisio dros wobr Barn y Bobol ar golwg360.

Cynhelir noson wobrwyo Llyfr y Flwyddyn yn Theatr y Werin, Canolfan Celfyddydau Aberystwyth ar Fehefin 20.

Beirniaid y llyfrau Saesneg

Sandeep Parmar, bardd ac Athro Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Lerpwl;

Louise Holmwood-Marshall, Pennaeth Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Aberystwyth;

Russell Celyn Jones, nofelydd ac Athro Emeritws Ysgrifennu Creadigol Coleg Birbeck, Prifysgol Llundain.