Mae’r awdur o Lan Ffestiniog, Geraint Vaughan Jones, wedi cyhoeddi dros ddwsin o lyfrau ar gyfer oedolion, a thua hanner dwsin ar gyfer plant yn ystod cyfnod o bron hanner canrif, ond mae’n synhwyro mai ei nofel ddiweddaraf fydd yr “un olaf”.

Yn ôl cyn-enillydd y Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol, mae’r ffaith bod Elena, a ysbrydolwyd gan hanes ei deulu, wedi ei chyflwyno i bob un o’i wyrion yn dangos “pa bwynt o ’mywyd dw i wedi ei gyrraedd”.

“Mae petha’n hel yn y meddwl ac yn cymryd misoedd, efallai, i ffurfio nes yn y diwedd mae rhywun yn gorfod mynd ati – ond na, dw i ddim yn meddwl bellach,” meddai Geraint V Jones wrth golwg360.

“Dw i newydd ddathlu fy mhen-blwydd yn 80 oed, felly dydw i ddim am demtio ffawd dim mwy trwy addo dim byd.”

Hanes teulu yn ysbrydoli

Mae Elena yn nofel am gyfrinachau teulu ac yn olrhain hanes Elin Puw a Dewi sy’n chwilio am feddau dau fachgen o’u pentref a gafodd eu lladd yn ystod y Rhyfel Mawr.

Yn ôl Geraint V Jones, cafodd ei sbarduno i sgrifennu’r nofel wrth gofio am aberth aelodau o’i deulu ei hun a fu farw yn y Rhyfel, gan gynnwys ei daid, Thomas Huw Davies o Abergynolwyn, a gafodd ei ladd yn yr un frwydr â Bardd y Gadair Ddu ar Gefn Pilkem ym mis Gorffennaf 1917.

“Fe gladdwyd fy nhaid mewn mynwent fach iawn allan ynghanol caeau – mynwent o’r enw The Dragoon Camp,” meddai Geraint V Jones, na chafodd “erioed gyfle” i gwrdd â thad ei fam.

“Fel mae’n digwydd, mae honno o fewn hanner milltir i fynwent Artillery Wood, lle claddwyd Hedd Wyn, ac roedd y ddau yn yr un catrawd.

“Dw i’n defnyddio’r cefndir ar gychwyn y nofel. Mae’r stori’n dechrau i bob pwrpas ym mynwent Artillery Wood efo’r prif gymeriad yn chwilio am feddau arbennig.”