Mae ysgrifennydd yt academi sy’n gyfrifol am gyflwyno Gwobr Lenyddiaeth Nobel, wedi gadael ei swydd.

Mae’r corff wedi cael ei gysylltu â nifer o sgandalau cam-drin rhywiol, ac mae Sara Danius bellach wedi mynd.

Roedd hi wedi rhoi blwyddyn o rybudd y byddai’n rhoi’r gorau i’w gwaith gyda’r academi o 18 aelod.

Sara Danius yw’r ail ddynes i adael yr academi.

Fe adawodd Katarina Frostenson, gwraig Jean-Claude Arnault, yn ffurfiol y mis diwethaf. Fe dreuliodd ef ddwy flynedd a hanner yng ngharchar am dreisio dwy ddynes yn 2011.

Fe gafodd yr academi ei siglo gan y sgandal honno, ac fe arweiniodd at ymddiswyddiad neu ddatgysylltiaf wyth o’r aelodau.

Yng nghanol hyn i gyd, fe gafodd gwobr 2018 ei gohirio, ac roedd disgwyl iddi gael ei chyflwyno eleni.