Mae Esyllt Lewis yn ymuno â thîm golygyddion Y Stamp yn dilyn ymadawiad Miriam Elin Jones, un o sylfaenwyr y cylchgrawn.

Mae’n dod o Gwmtawe, ac ar ôl cwblhau cwrs sylfaen mewn celf yng Ngholeg Celf Abertawe, graddiodd mewn Cymraeg ac Athroniaeth o Brifysgol Caerdydd. Mae hi’n byw yn y brifddinas erbyn hyn.

“Rwy’n edrych ymlaen at ymuno â thîm Y Stamp, a rhannu fy mrwdfrydedd am gelf gweledol ac ysgrifennu creadigol,” meddai Esyllt Lewis.

“Un o fy mhrif obeithion wrth ddechrau ar y gwaith fel golygydd yw rhoi llwyfan i artistiaid gweledol ifanc i ddangos a thrafod eu gwaith, gan ehangu ar y gwaith y mae Y Stamp eisoes yn gwneud, er mwyn gwella’r disgwrs yn ymwneud â chelf, a’r ‘sîn’ celf yng Nghymru.”