Mae awdur a gafodd ei eni a’i fagu yn Aberystwyth yn dweud bod y dref a’r ardal gyfagos yn “berffaith” ar gyfer y math o nofelau sy’n cael eu galw’n ‘Scandi Noir’.

Ar Drywydd Llofrudd yw nofel gyntaf yr ymgynghorydd technoleg, Alun Davies, ac ymhen blynyddoedd mae’r awdur yn gobeithio y byddai yn rhan o drioleg.

Mae’r nofel “gyfoes a thywyll” yn dilyn hynt dau dditectif, Taliesin ac MJ, sydd ar drywydd llofrudd sy’n targedu merched yng Ngheredigion.

Yn ôl Alun Davies, bu’n fwriad ganddo o’r cychwyn i wneud Aberystwyth yn ganolbwynt i’r stori, gan fod yna awyrgylch “eithaf tywyll” i dirwedd yr ardal o amgylch y dref glan môr.

“Dw i wedi treulio amser yn Aberystwyth, Llundain a Chaerdydd, ac o’r tair yna, fe fydden i’n sicr yn dweud mai Aberystwyth sy’n siwtio’r math yma o lyfr,” meddai wrth golwg360.

Wrth sgrifennu’r nofel wedyn, dywed iddo geisio gwyrdroi’r darlun traddodiadol o’r dref fel lle “cysurus a diniwed”, a bod rhoi gwedd “mwy sinistr” iddi fel gweld “digrifwr yn chwarae llofrudd peryglus”.

“Mae’n ychwanegu rhywbeth i’r rhan achos dydych chi ddim wedi arfer eu gweld nhw yn y golau yna,” ychwanega.

Dyma glip o Alun Davies yn darllen darn o’i nofel…