Mae cylchgrawn Y Selar a phrosiect Gorwelion BBC Cymru wedi dod ynghyd i sicrhau bod cerddoriaeth yn rhoi hwb i lyfrgelloedd Cymru.

Fe fydd gig byw yn cael ei gynnal yn Llyfrgell Llandudno am 5 o’r gloch fory (dydd Gwener, Tachwedd 2).Roedd i fod i gael ei gynnal yn ystod Wythnos y Llyfrgelloedd fis diwethaf, ond cafodd ei ohirio oherwydd Storm Callum.

Yn perfformio yn Llandudno fydd Eadyth, a’r band indi lleol, Campfire Social.

Codi proffil

“Nod y rhaglen Gorwelion yw codi proffil cerddoriaeth o Gymru, gan weithio mewn ffyrdd eithaf arloesol i wneud hyn – a hefyd rhoi cyfle i fandiau newydd chwarae mewn amrywiol leoliadau i gynulleidfaoedd amrywiol,” meddai rheolwr prosiect Gorwelion, Bethan Elfyn.

“Go brin y bydd llawer ohonynt wedi chwarae mewn llyfrgell o’r blaen ond mae’n gyfle gwych i amlygu’r rôl mae llyfrgelloedd yn ei chwarae yng nghymdeithas heddiw ac i ddod â chynulleidfa newydd i’r llyfrgell.

“Gyda ffocws yr Wythnos Llyfrgelloedd eleni ar wella lles gan gynnwys cynnig gofod i fod yn greadigol rydym yn ystyried hwn yn llwyfan perffaith i’n hartistiaid – ni allaf aros i weld ymateb pobol!”