Mae’r awdur, Stephen King, wedi gwerthu hawliau un o’i straeon i stiwdants Academi Ffilm Blaenau Gwent.

Y bwriad ydi annog myfyrwyr ledled y byd i greu ffilmiau anfasnachol, ac i ddefnyddio gweithiau a allai fod allan o’u cyrraedd yn arferol oherwydd bod costau’n rhy uchel.

Mae’r stori ‘Stationery Bike’ yn sôn am ddyn sy’n dechrau defnyddio beic ymarfer, ar gyfarwyddyd ei ddoctor. er mwyn ceisio dod â lefel y colestrol yn ei waed i lawr.

Wrth i’r dyn lwyddo i gael ei hun yn ffit, mae’n dechrau cael meddyliau rhyfedd  bod rhywun yn ei ddilyn ar ei deithiau beic dyddiol.

“Mae hon yn fargen wych i’n myfyrwyr ni, sy’n edmygu gwaith ysgrifennu Stephen King,” meddai Kevin Phillips, tiwtor yn Academi Blaenau Gwent. “Mae’n sgŵp grêt ar gyfer yr academi.”