Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi enwau’r pedwar bardd a fydd yn ymgymryd â’r Her 100 Cerdd am eleni.

Y pedwar fydd Manon Awst, Caryl Bryn, Morgan Owen ac Osian Owen, a’r nod fydd ceisio sgrifennu cant o gerddi mewn cyfnod o 24 awr.

Bydd yr her yn cael ei chynnal ddydd Iau yma (Hydref 4) ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth, gyda’r gwaith yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llenyddiaeth Cymru yn syth ar ôl cael ei gwblhau.

Mae’r her wedi cael ei gynnal bron yn flynyddol ers 2012, gan greu cyfanswm o 500 o gerddi dros y blynyddoedd.