Dychwelyd i Gaerdydd a wnaeth un o enillwyr y cystadlaethau llên, dod i’r Bae am y tro cynta’ erioed a wnaeth un arall.

Fe lwyddodd R John Roberts, Caernarfon, i ennill cystadleuaeth yr englyn union ddeugain mlynedd ar ôl ennill y delyneg yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 1978.

Ond i enillydd y villanelle, Huw Evans o Gwrtnewydd, dyma oedd ei ymweliad cynta’ â Bae Caerdydd, gan ychwanegu nad oedd yn gweld unrhyw reswm tros ddod yn ôl yno chwaith, gan fod popeth yr oedd ei angen yn ei ardal.

Huw Evans

Dychwelyd a wnaeth Dai Rees Davies, Rhydlewis, hefyd gan ennill gwobr yr englyn ysgafn am y pumed tro.

Dai Rees Davies

Enillwyr eraill

Ymhlith yr enillwyr eraill, roedd:

Cywydd – Dafydd Job, Bangor.

Soned – Elin Meek, Abertawe

Pump triban – Rhiain Bebb, Machynlleth

Chwe limrig – Idris Reynolds, Brynhoffnant

Telyneg – Atal y wobr

Rhiain Bebb