Mae’r Archdderwydd a’r Orsedd wedi ymddiheuro am sylwadau a wnaeth yn ystod seremoni’r Coroni yn yr Eisteddfod ddoe (dydd Llun, Awst 6).

Mae’r Orsedd wedi cyhoeddi datganiad ar ran yr Archdderwydd, Geraint Llifon – Geraint Lloyd Owen – yn pwysleisio nad oedd rhai o’r sylwadau yn “adlewyrchiad o’i farn bersonol nac ychwaith o farn yr Orsedd”.

Fe gafodd yr Archdderwydd ei feirniadu am sylwadau yn sarhau merched ar ôl awgrymu na fyddai’r enillydd ddoe, Catrin Dafydd, wedi gallu gwneud dim heb gefnogaeth dynion.

Roedd Catrin Dafydd ei hun wedi dweud nad oedd yn cytuno gyda rhai o’r pethau a ddywedodd Geraint Llifon.

Gwrthod gwneud sylw wnaeth yr Eisteddfod ei hun, gan fynnu mai’r Orsedd oedd yn cynnal y seremonïau.