Mae gwneuthurwr ffidil wedi creu offeryn newydd er mwyn nodi 200 mlwyddiant geni’r awdures, Emily Bronte, gan ddefnyddio pren o goeden oedd yn tyfu’n agos ar ei chartref.

Mae Steve Burnett yn dweud y gallai’r pren sycamorwydden o Haworth yng ngorllewin Swydd Efrog, fod yn ddigon hen i fod yn tyfu yno yn ystod cyfnod Emily Bronte ei hun.

“Mewn modd artistig, mae’r pren wedi dychwelyd i’r gweundir,” meddai. “Rydw i’n gweld yr offeryn fel ymestyniad o’r gair ar bapur, yn dweud stori ac yn adrodd profiadau.

“Roedd y dramodydd, Goethe, yn arfer dweud fod cerddoriaeth yn dechrau lle’r oedd y gair llafar yn gorffen. A dyna ydw i’n gobeithio fod yr offeryn yma yn ei wneud – rhoi llais i’r amgylchedd oedd mor bwysig i Emily Bronte.”

Er nad oedd Emily Bronte yn chwarae’r ffidil, fe ddaeth y cymeriad Mr Earnshaw yn y nofel Wuthering Heights â ffidil gydag ef wrth iddo, yng nghwmni Heathcliff, groesi’r mynydd. Ond, ar ddiwedd eu siwrnai, maen nhw’n canfod fod yr offeryn yn ddarnau.