Mae Beti George, un o feirniaid gwobrau Llyfr y Flwyddyn, wedi dweud bod stori’r BBC ar ffigurau gwerthiant llyfrau rhestr fer y wobr eleni wedi bod yn “annheg”  ac wedi taflu dŵr oer ar y seremoni.

Mae Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru, sawl gwasg gyhoeddi ac awduron lu wedi galw ar y BBC i ymddiheuro, am honni bod yr un o’r llyfrau ar restr fer gwobr Llyfr y Flwyddyn eleni wedi gwerthu mwy na 200 copi.

Yn ôl y rhai sy’n mynnu ymddiheuriad, roedd y BBC ar fai am ddefnyddio un ffynhonnell o werthiant am eu gwybodaeth, a honno yn ffynhonnell sydd ddim yn cyfri’r llyfrau sy’n cael eu gwerthu mewn siopau Cymraeg.

Ac yn ôl y ddarlledwraig Beti George, sydd â rhaglen wythnosol ar BBC Radio Cymru, Beti â’i Phobol, roedd y stori yn anghywir ac yn negyddol.

“Pam cyhoeddi hynny ar noson y dathlu? Roedd e’n dampener ar y noson ac mae e mor annheg,” meddai golwg360.

“Ry’n ni gyd yn gwybod bod yna ddiffyg darllen yn gyffredinol beth bynnag a’r gwerthiant yn gallu bod yn isel ac mae’r gweisg Cymraeg yn dweud bod nhw’n cael hi’n anodd gwerthu llyfrau barddoniaeth, ac eto mae llyfr Peredur Lynch [Caeth a Rhydd] wedi gwerthu’n anhygoel.

“Mae’n neis i weld bod tri llyfr ar yr ail argraffiad, sef llyfr y Meddyginiaethau [Gwerin Cymru], Blodau Cymru a Gwales, sy’n wych o beth.”

 “Negyddol ac anghywir”

“Pam nad ydyn ni’n dathlu rhywbeth fel yna, yn hytrach na sôn am y negyddol trwy’r amser, yn enwedig pam bod y rheini wedi cael eu ffigurau’n anghywir ta beth.

“Mae’r peth mor annheg achos dyna beth mae pobol yn mynd i gofio… mae mor drist. Dw i’n gobeithio bydd y sylw mae wedi cael yn gwerthu mwy…

“Trueni bod e wedi digwydd ar noson y dathlu. Dw i ddim yn deall hynny.”

Ymateb y BBC

Dywed llefarydd ar ran BBC Cymru, “Rydym wedi adolygu’r erthygl dan sylw a thra bo’r data a ddefnyddwyd wedi dod o ffynhonnell gydnabyddedig o fewn y diwydiant, rydym yn derbyn nad oedd yn adlewyrchu y darlun llawn o ran gwerthiant. Nid oedd bwriad i gamarwain ac mae’r erthygl wedi ei diweddaru i gynnwys rhagor o gyd-destun ac i gynnwys yr ymateb i’r stori wreiddiol.

“Bwriad yr eitem oedd trafod dyfodol y diwydiant a gwnaed hynny tra’n adlewyrchu Noson Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn.”