“Dw i’n heddychwraig, ond dw i mo’yn chwyldro!” Dyna yw cri’r awdures, Catrin Dafydd, wedi iddi ennill y Wobr Ffuglen Gymraeg am ei nofel Gwales.

Mae’r nofel wedi’i osod yng Nghaerfyrddin yn 2057, pan mae tref hynaf Cymru yn gadarnle i gartéls, ac mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi’i diddymu.

Wrth drafod ei llyfr, mae Catrin Dafydd yn cydnabod nad yw Cymru’n ddystopia eto, ond mae’n teimlo bod “pethau tamaid bach yn dywyllach nawr nac ydyn ni eisiau credu”.

Ac, mae’n credu bod “cwestiynau mawr” gydag ein cymdeithas i ofyn.

“Hynny yw, mae 70 blynedd o’r gwasanaeth iechyd yn cael ei ddathlu eleni,” meddai wrth golwg360.

“Mae’n rhaid i ni wir ofyn, shwt ‘yn ni’n cadw hynna. Shwt ma’ hynna’n edrych gyda’n poblogaeth yn mynd yn hŷn. Mae gen ti lot mawr o gwestiynau dyrys iawn. Ac os ydyn ni ddim gofyn nhw ‘sneb arall yn mynd i ofyn nhw.

“Mae lot fawr o gwestiynau eraill ynglŷn â phwys sydd bia’r Gymraeg, a hefyd hunaniaeth Cymru fel gwlad. Ydyn ni eisiau’n rhyddid ai peidio?

“Shwt ydyn ni’n ymrafael am y rhyddid yna os ydyn ni yn mynd i wneud ymdrech i gael rhagor o rymoedd a phwerau. Shwt ‘yn ni’n gwneud hynny? A fydd yna rhyw fath o chwyldro yng Nghymru?”