Mae’r cysylltiad rhwng hunaniaeth, tirwedd a lle” yn thema sy’n dod yn “fwyfwy pwysig” mewn pob math o ysgrifennu yn Gymraeg ac yn Saesneg, meddai Hywel Griffiths, enillydd Gwobr Farddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2018.

Mae ei gyfrol fuddugol, Llif Coch Awst, yn gasgliad o gerddi sy’n “dod â theulu, tirwedd, dŵr a daear ynghyd”, yn ôl beirniaid y wobr.

Ac yn siarad â golwg360 mae’r bardd ei hun yn cydnabod bod y themâu yma – sy’n rhedeg yn gryf yn ei waith – yn dod yn bwysicach yn oes y rhyngrwyd a thechnoleg.

“Falle wir, mewn byd sy’n gynyddol fydol,” meddai, “lle rydan ni gyd wedi’n cysylltu ar draws y byd, lle mae gymaint yn mynd ymlaen yn y byd, mae rhywun yn teimlo eu bod eisiau bod wedi gwreiddio llawer iawn yn fwy mewn un lle penodol.”