Prif enillydd gwobr Saesneg Llyfr y Flwyddyn eleni yw Robert Minhinnick gyda’i gerddi am lygru a dinistrio’r ddaear yn y gyfrol, Diary of the Last Man.

Mae’r panel beirniadu Saesneg eleni yn cynnwys y colofnydd, cynhyrchydd a’r awdur Carolyn Hitt; y bardd a’r golygydd Kathryn Gray; a’r awdur Cynan Jones.

Cyhoeddwyd enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo yn Tramshed, Caerdydd heno (nos Fawrth, Mehefin 26).

Cyflwynwyd y wobr i Robert Minhinnick gan gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, Phil George.