Enillydd y Wobr Ffeithiol Greadigol Saesneg yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn eleni yw M Wynn Thomas gyda’i gasgliad o 11 o draethodau am awduron o Gymru, All that is Wales (Gwasg Prifysgol Cymru).

Mae’r casgliad yn trafod gwaith ystod eang o lenorion – rhai’n enwog ac eraill yn llai enwog – o Lynette Roberts i Emyr Humphreys; Gillian Clarke i Vernon Watkins a Dylan Thomas.

Mae M Wynn Thomas yn Athro Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae wedi cyhoeddi ugain o gyfrolau am ddwy lenyddiaeth Cymru.