Enillydd y Wobr Ffuglen Saesneg yw Crystal Jeans gyda’i nofel Lightswitches are my Kryptonite (Honno).

Llanc ifanc ofnus ond tirion sy’n dioddef o gyflwr OCD (obsessive compulsive disorder) yw Sylvester, y prif gymeriad, ac mae’n treulio llawer o’i amser yn ei ystafell yn mwmial mantra ac yn gludo gliter i’r switsys golau.

Yn y nofel, mae ef a’i ffrind bregus, Patty, a’i dad fynd ar daith wyllt o alcohol a chyffuriau.

Fe gafodd Crystal Jeans ei geni a’i magu yng Nghaerdydd.