Enillydd Gwobr Farddoniaeth Roland Mathias yng nghategori barddoniaeth Saesneg cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn eleni, yw Robert Minhinnick.

Mae ei gyfrol, Diary of the Last Man (Carcanet) yn canu marwnad i’r amgylchedd, gan droi hefyd at effaith gwleidyddiaeth a gwneud i’r darllenydd feddwl am ei weithredoedd a’i effaith ar ein planed.

Er bod y ’dyn’ yn y gyfres agoriadol o gerddi yn wynebu diwedd y byd, mae’n dal yn fyw – ac mae ganddo ei iaith hefyd, am gyfnod. Mae’n cofnodi popeth o’r hyn sy’n digwydd o’i gwmpas, fel y mae wedi gwneud erioed.

Mae gweddill y gyfrol yn llawn o leisiau amrywiol – plant, afonydd, brawychwyr, dewinoedd… ac mae’r lleisiau wedi’u cyfieithu o bob math o ieithoedd, o’r Gymraeg, Twrceg, Arabeg, a’u rhannu ag un byd mawr sydd ar drengi.