Hywel Griffiths yw enillydd categori barddoniaeth Gymraeg, Llyfr y Flwyddyn 2018.

Ei gyfrol, Llif Coch Awst (Barddas), gafodd ei dyfarnu’n fuddugol gan y beirniaid, Beti George, Aneirin Karadog a Caryl Lewis.

Mae’r gyfrol ddiweddara’ hon o gerddi gan y daearegydd o Aberystwyth “yn dod â theulu, tirwedd, dŵr a daear ynghyd”, medden nhw.

Y ddau fardd arall ar restr fer Barddoniaeth eleni oedd Gwyneth Lewis (Treiglo, Cyhoeddiadau Barddas) a Peredur Lynch (Caeth a Rhydd, Carreg Gwalch).