Mae rhaglen radio wedi datgelu gwybodaeth newydd am fardd ifanc o Gymru a ddiflannodd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Fe ddiflannodd y bardd David Ellis, a oedd yn hanu o Langwm, ar Fehefin 15, 1918, tra oedd yn gwasanaethu yn un o ysbytai’r fyddin ym Macedonia.

Ond ar y rhaglen Chwilio am y Bardd a Gollwyd ar BBC Radio Cymru, mae dogfennau ym meddiant perthnasau’r bardd yn awgrymu na wnaeth e, fel y mae nifer yn credu, ladd ei hun.

Yn hytrach, mae gwaith ymchwil gan y ffermwr a’r hanesydd, Cledwyn Fychan, ynghyd â llythyr gan filwr a wasanaethai ym Macedonia tua’r un adeg, yn awgrymu bod y bardd ifanc wedi ymuno â llwyth o fugeiliaid yng ngogledd Groeg, o’r enw’r Vlachiaid.

Stori yn fyw

“Fyth ers i Dei Ellis ddiflannu ar y pymthegfed o Fehefin, mae pobol wedi tybio mai lladd ei hunan wnaeth o, yn rhannol oherwydd amgylchiadau’r rhyfel, yn rhannol oherwydd bygythiad y byddai rhaid iddo fo adael corfflu meddygol a mynd i ymladd ac yn rhannol oherwydd fod ei gariad wedi gorffen eu perthynas,” meddai Dylan Iorwerth, cyflwynydd y rhaglen.

“Ond, ar hyd yr amser, mae yna stori arall wedi aros yn fyw – mai diflannu wnaeth Dei Ellis ac ymuno efo bugeiliaid crwydrol oedd yn yr ardal lle’r oedd o’n gwasanaethu ar y pryd.”

Roedd y rhaglen hefyd yn datgelu bod enw David Ellis wedi’i ychwanegu at gofeb i gofio am y milwyr a gollwyd yn y Rhyfel Mawr ym Macedonia.