Mae Coron prifwyl Caerdydd wedi’i chyflwyno i’r pwyllgor gwaith heno (nos Fercher, Mehefin 6).

Mae’r wobr wedi’i gwneud gan Laura Thomas, Castell-nedd, ac mae wedi treulio 400 awr ar y gwaith sy’n fodern ac eto’n parchu traddodiadau’r eisteddfod.

Mae’r goron yn cynnwys gwaith parquet – pren mewn arian pur – 600 o fenirs chweochrog, pob un wedi’i hychwanegu â llaw. A’i thad-cu, Jack Owen, sy’n rhannol gyfrifol am ei chariad at weithio gyda phren – roedd yn arfer gwneud anifeiliaid bach wedi’u cerfio o bren solet a phren haenog.

“I greu’r goron, mae pum math o bren a dorrwyd yn fanwl gywir, wedi’u gosod â llaw mewn arian sydd wedi’i strwythuro mewn modd geometrig, cyn eu cyd-osod i greu’r strwythur,” meddai Laura Thomas.

“Roeddwn am i’r goron adlewyrchu’r defnydd o argaenau cynaliadwy sy’n adleisio datblygiad parhaus technolegau cynaliadwy yn ardal Caerdydd – megis cynhyrchu pŵer sy’n seiliedig ar fio-màs.”

Cyflwynir y Goron eleni am gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn, heb fod dros 250 o linellau, dan y teitl ‘Olion’. Y beirniaid yw Christine James, Ifor ap Glyn a Damian Walford Davies.