Mae darlithydd Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor yn dweud bod derbyn Coron yr Urdd ar ran un o’i fyfyrwyr wedi bod yn “fraint annisgwyl”.

Ond teimladau “chwerwfelys” oedd gan Gerwyn Wiliams, sy’n dweud y byddai’n well ganddo fod wedi gweld yr enillydd, Erin Hughes, yn cael ei choroni.

Doedd y myfyriwr 20 oed o ardal Boduan ger Pwllheli ddim yn gallu bod yn bresennol yn y seremoni ddydd Gwener am ei bod yn dioddef o gyflwr prin Myasthenia Gravis, sy’n effeithio ar y cyswllt rhwng ei nerfau a’i chyhyrau.

“Roedd derbyn y Goron ar ran Erin yn fraint annisgwyl ac yn fraint fawr bod hi wedi ymddiried y dasg ynddo i,” meddai Gerwyn Wiliams wrth golwg360.

“Ond teimladau chwerwfelys wrth reswm achos buasai’n gan fil gwell gen i beidio bod yma ac mai Erin buasech chi’n cyfweld rŵan a hithau yn dathlu ei hawr fawr.

“Mae ei chyfraniad hi yn un arbennig, dw i wedi bod yn darlithio yn y brifysgol ym Mangor ers y rhan orau o ddeng mlynedd ar hugain, ac wedi gweld amryw o fyfyrwyr talentog ar hyd y blynyddoedd, mae Erin ymhlith y rhai mwya’ talentog dw i wedi gweld.

“Roeddwn i’n gwybod bod hi wedi cystadlu a doedd o ddim yn syndod yn y byd gen i glywed ei bod hi wedi ennill ac roedd o mor wych clywed sylwadau [un o’r beirniaid] Catrin Beard o’r llwyfan yn dweud bod hanner o blith y 14 oedd wedi ymgeisio yn deilwng o’r Goron a bod hi’n gystadleuaeth arbennig o safonol.

“Dw i’n gwybod bod Erin wedi anfon cais arall i mewn yn yr un gystadleuaeth a dw i ddim yn amau mai hi oedd ‘Afallon’ a ddaeth yn bedwerydd dw i’n meddwl.”

Proses gorfforol “heriol”

Mae’r broses gorfforol o ysgrifennu yn anodd a heriol i Erin Hughes, yn ôl ei darlithydd, ac de ysgrifennodd y darn buddugol dros yr haf y llynedd rhag ofn i’w chyflwr waethygu.

“Mae wedi dweud wrtha’ i bod y broses gorfforol o ddefnyddio ei chyhyrau i ysgrifennu yn broses heriol,” meddai Gerwyn Wiliams.

“Mi ‘sgwennodd hi’r darn yma, ei disgrifiad hi oedd ei bod hi wedi ei ysgrifennu fo mewn panig haf diwethaf.

“Roedd hi’n gwybod beth oedd y testunau, roedd yn amlwg eu bod yn apelio ac wedi tanio ei dychymyg hi ond roedd hi’n gwybod hefyd petai hi’n oedi yn hirach gallai’r cyflwr waethygu ac y byddai’r act gorfforol yna o ysgrifennu yn anodd os nad amhosib iddi hi.”