Mae Meuryn cyfres Y Talwrn wedi disgrifio cyn-gyfrannwr i’r rhaglen a fu farw’n ddiweddar fel “cymeriad unigryw”.

Yn ôl y Prifardd Ceri Wyn Jones, er bod yna “dros ddeng mlynedd ar hugain” yn ei wahanu ef ac Emyr Oernant, fe fu’r ddau “yn yr ysgol gyda’n gilydd”, wedi iddyn nhw fod yn gyd-aelodau yn nosbarthiadau cerdd dafod T Llew Jones yn yr 1980au.

“…mi synhwyrais yn syth fod hwn yn ddyn ffraeth a galluog, a chanddo ffordd wreiddiol – a digyfaddawd – o fynd at ei bethau,” meddai wrth golwg360.

“Profiad swreal”

Wrth ei gofio fel cyfrannwr i’r Talwrn wedyn, mae Ceri Wyn Jones yn dweud mai “profiad swreal” oedd bod yn Feuryn ar y bardd a’r ffermwr o gyrion tre’ Aberteifi.

Roedd hyn, meddai, “yn enwedig gan ei fod ef wedi bod yn un o sêr y gyfres honno ers blynyddoedd, boed fel cynganeddwr telynegol neu ergydiwr mwy comig!”

“Ac roedd e’n ymfalchïo’n fawr fod ei dim ef, sef Tanygroes, wedi bod yn bencampwyr y gyfres ym 1997.

“Roedd Emyr Oernant yn gymeriad unigryw, a bydd y golled bersonol a’r golled ddiwylliannol yn fawr ar ei ôl – a bydd cyfres Y Talwrn sawl sillaf yn llai lliwgar hebddo, does dim amau.”