Mae bardd o Geredigion yn dweud bod y profiad o ymgyrchu wedi bod yn un “poenus” iddi erioed.

Cyn diwedd y mis, fe fydd y gyfrol Cennad gan Menna Elfyn yn cael ei chyhoeddi, llên-gofiant sy’n rhan o gyfres gan Gyhoeddiadau Barddas sy’n rhoi’r cyfle i feirdd a llenorion drafod eu gwaith yng nghyd-destun eu bywydau.

Ac yn ôl Menna Elfyn, a fu’n ymgyrchu ar ran Cymdeithas yr Iaith, y Mudiad Heddwch a hawliau merched yn y 1970au a’r 1980au, mae’n dweud mai “ymgyrchydd anfoddog” y bu hi erioed.

“O ran greddf, dw i ddim yn un sy’n mwynhau, neu wedi mwynhau, sefyll ar ryw blacard, neu weiddi ar draws llys, neu fod ar linell biced,” meddai wrth golwg360.

“Ond eto i gyd, roedd argyhoeddiad yn fy ngorfodi i wneud y pethe ´ma, oherwydd y cyfnod a’r teimlad o reidrwydd i wneud.”

“Pererin unig”

Er i’r profiadau hyn “dynnu” ar ei hawydd i sgrifennu, mae’n dweud mai profiad “unig iawn” oedd bod yn fenyw o fardd yn ystod y cyfnod hwn.

“Yn cyfnod pan o’n i’n sgwennu, roedd yn gyfnod unig iawn,” meddai eto, “achos o’dd yna ddim pobol fel Mererid Hopwood a Gwyneth Lewis gyda ni.

“Ro’n i’n bererin unig, mewn ffordd, a’r unig ddwy fardd o’n i’n gwybod amdanyn nhw oedd Nesta Wyn Jones ac Einir Jones, ac roedd y ddwy yna’n lled-unig hefyd.

“Felly roedd ceisio camu i mewn i’r byd barddol gwrywaidd yn rhywbeth anodd, a don i ddim yn siŵr os oeddwn i eisiau chwaith.”

Cyhoeddi gyda Barddas

Un o’r mudiadau oedd yn cael ei gysylltu’n aml gyda’r “byd barddol gwrywaidd” hwn oedd Barddas, gydag Alan Llwyd a Gwynn ap Gwilym yn methu â chynnwys Menna Elfyn a rhai merched eraill yn Blodeugerdd o Farddoniaeth Gymraeg yr Ugeinfed Ganrif yn 1988.

Ond yn ôl y bardd, mae’n “fodlon” cyhoeddi ei chyfrol newydd gyda Barddas, oherwydd bod “pethe wedi newid” erbyn hyn.

“Mi oedd yna gyfnod o fod yn eithaf haearnaidd [yn y byd barddol Cymraeg], ond es i ddim bant.”

“Mae pethe wedi newid yn llwyr, ac ry’n ni mewn cyfnod iachach…”

Bydd Cennad yn cael ei lansio yn Yr Atom yng Nghaerfyrddin ar Fawrth 27.

Dyma glip o Menna Elfyn yn darllen darn o’r gyfrol sy’n sôn am un o’i theithiau i wyliau llenyddol rhyngwladol…