Mae ystâd awdur y llyfr To Kill A Mockingbird wedi dechrau achos cyfreithiol yn erbyn addasiad Broadway o’r nofel.

Dadl ochr Harper Lee yw bod fersiwn y sgriptiwr Aaron Sorkin yn newid Atticus Finch a chymeriadau eraill yn y llyfr ar gam.

Mae’r achos, sy’n cynnwys copi o gytundeb gafodd ei arwyddo gan yr awdur tua wyth mis cyn ei marwolaeth ym mis Chwefror 2016, yn dadlau bod y sgript wedi torri’r cytundeb hwnnw.

Maen nhw’n anhapus ei fod yn portreadu Atticus Finch, cyfreithiwr uchel ei barch sy’n cynrychioli dyn du wedi’i gyhuddo ar gam o dreisio yn y llyfr, fel rhywun arall.

Mewn cyfweliad, dywedodd Aaron Sorkin y byddai’r cymeriad yn dechrau fel rhywun sy’n amddiffyn hiliaeth cyn dod yn “Atticus Finch erbyn diwedd y ddrama.”

Gallai newid o’r fath adlewyrchu’r newid yn y cymeriad rhwng To Kill A Mockingbird a nofel gyntaf Harper Lee, Go Set a Watchman, a gafodd ei chyhoeddi yn 2015.