Fe fydd cyfrol o weithiau beirdd ardal Llanbedr Pont Steffan yn cael ei chyhoeddi cyn diwedd y mis, a hynny yn ôl dymuniad cyn-aelod “amryddawn”.

Mae’r gyfrol, I Gofio’r Gaeafau, yn cynnwys detholiad o waith y beirdd hynny a fu’n aelodau o’r dosbarthiadau ysgrifennu creadigol a oedd yn arfer cael eu cynnal yn y dref yn ystod nosweithiau’r gaeaf.

Mae’n cael ei chyhoeddi er cof am aelod o’r dosbarth, sef Ann Rhys o Felin-fach, a fu farw bedair blynedd yn ôl yn dilyn salwch hir. Roedd wedi nodi yn eu hewyllys y dymuniad o weld gweithiau beirdd y dosbarth yn cael eu dwyn i olau dydd mewn cyfrol.

Cyfrol o’r “llon a’r lleddf”

Golygydd y gyfrol yw enillydd cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn yn ddiweddar, sef y Prifardd Idris Reynolds, a fu’n diwtor ar y dosbarthiadau rhwng 1989 a 2004.

Mae’n dweud bod y gyfrol yn cynnwys “amrywiaeth o’r caeth a’r rhydd, y llon a’r lleddf”.

Ac wrth nodi bod cerddi gan Ann Rhys wedi’u cynnwys ynddi, mae’n talu teyrnged iddi fel bardd a oedd yn sgrifennu’n “bert”, ac fel beirniad llenyddol “craff iawn”.

Noson “anodd a theimladwy”

Yn ôl ei gŵr, Roy Davies wedyn, un dymuniad “ymhlith nifer” gan ei ddiweddar wraig yw cyhoeddi’r gyfrol hon.

Eisoes, mae symiau sylweddol o arian wedi’u rhoi i Gwmni Drama Gydweithredol Treod-y-rhiw, enwad yr Undodiaid yng Ngheredigion, Eisteddfod Gadeiriol Felin-fach, a chanolfan ysgrifennu creadigol Tŷ Newydd yn Llanystumdwy – lle’r oedd Ann Rhys yn ymwelydd cyson.

Ond er ei fod yn awyddus i wireddu’r dymuniad, mae Roy Davies yn cyfaddef mai digwyddiad “anodd a theimladwy” fydd y noson lansio iddo.

“Mi fydd Ann wrth ei bodd pe tai hi’n gallu bod yna,” meddai. “Ond dw i’n gobeithio ei bod hi’n edrych i lawr arno ni.”

Bydd y gyfrol yn cael ei lansio yn Festri Capel Brondeifi ar Fawrth 22, gydag elw’r gyfrol yn mynd tuag at Sefydliad Ymchwil y Galon.

Dyma glip o Idris Reynolds yn adrodd cyfres o englynion o waith aelod arall o’r dosbarth, sef Eirwyn Williams, er cof am Ann Rhys…