Mae awdur y gyfres boblogaidd i blant, Na Nel, yn dweud ei bod hi’n “llawn cyffro” am y ffaith y bydd ei llyfr yn cael ei gwerthu am £1 ar Ddiwrnod y Llyfr (Mawrth 1) eleni.

Na, Nel! Un Tro gan Meleri Wyn James yw’r llyfr Cymraeg cyntaf i fod ar y rhestr o lyfrau a fydd yn cael eu gwerthu am £1 ar Ddiwrnod y Llyfr.

“Dw i’n meddwl ei bod yn bwysig iawn bod World Book Day yn cefnogi’r Gymraeg fel hyn, felly dw i’n falch bod yna lyfr Cymraeg ar gael am y tro cyntaf,” meddai’r awdures wrth golwg360.

“Y gobaith yw y bydd plant yn mynd i siope llyfrau i brynu’r llyfr, ac y bydd e’n annog nhw hefyd i brynu llyfre Cymraeg eraill, achos mae ʾna wledd o lyfre ar gael a fydd yn annog nhw i ddarllen ymhellach.”

“Llenwi’r bwlch”

Ers i Wasg y Lolfa gychwyn ar y gyfres yn 2014, mae Meleri Wyn James bellach wedi sgrifennu naw llyfr, ynghyd â sgriptio sioe ar gyfer Theatr Arad Goch a fydd yn mynd ar daith am chwe wythnos yn ystod yr haf eleni.

Ac mae hyn i gyd oherwydd i’r awdures deimlo’r angen i ddarparu llyfrau darllen i blant “hŷn”.

“Mae gen i ddwy o ferched fy hunan, a phan o’n nhw’n fach, mi ro’n i’n mynd i siope llyfre, a bydden i’n sylwi bod llond plât o ddewis o lyfre Cymraeg iddyn nhw…

“Ond wrth iddyn nhw fynd yn hŷn, roedd y dewis yn mynd yn llai, ac mae hynny’n arbennig o wir pan ydych chi’n sôn am lyfre gwreiddiol.

“Felly fe benderfynes i y bydden i’n mynd ati i drio llenwir bwlch ʾna, a chreu cymeriad ar gyfer llyfre i blant – plant a oedd yn dechre darllen ar eu pen eu hunain.”

“Llawn dychymyg a direidus”

Mae Meleri Wyn James yn disgrifio Nel fel cymeriad “bywiog, disglair a llawn dychymyg”, ynghyd â bod “tamed bach yn ddireidus”.

Ac mae’r “dychymyg a’r direidi” hwnnw i’w glywed yn y clip isod o’r llyfr diweddaraf…

Mi fydd Na, Nel! Un Tro yn cael ei lansio’n swyddogol ar Ddiwrnod y Llyfr ar Fawrth 1.