Mae sylfaenydd Ysgol Glanaethwy yn dweud ei fod wedi mynd ati i lunio casgliad o fonologau gwreiddiol oherwydd bod yna “ofyn amdano”.

Mae Sgin Ti Fonolog wedi’u sgrifennu gan un sydd wedi bod yn wyneb cyfarwydd yn y byd perfformio ers blynyddoedd, ac mae’n cynnwys 36 o fonologau gwreiddiol ar gyfer pobol ifanc.

“Mae’r teitl ei hun yn dweud y cefndir yn yr ystyr y byddai’n cael galwad ffôn yn aml yn gofyn y cwestiwn yma: ‘Oes gin ti fonolog?’,” meddai Cefin Roberts wrth golwg360.

“Does dim digon o fonologau i blant”

Yn ôl y cyfarwyddwr theatrig a cherdd o ogledd Cymru, sydd wedi bod yn sgrifennu monologau ers tair blynedd, mae’r “angan” hwnnw gan bobol ifanc yn deillio o’r ffaith nad oes digon o ddeunydd addas ar gael ar gyfer eu hoedran nhw.

“Yr unig fonologau sydd gynnon ni yw’r rheiny allan o ddramâu Cymraeg gan awduron a dramodwyr… fel Meic Povey, Saunders Lewis ac Aled Jones Williams,” meddai eto.

“Maen nhw wedi’u hanelu at gymeriadau tipyn yn fwy hyn na’r plant a’r bobol ifanc sy’n chwilio am fonologau y dyddiau yma.

“Mae’n grêt i bobol ifanc gael actio pobol sy’n cynrychioli eu hoedran arbennig nhw.”

Dyma glip o Cefin Roberts yn cyflwyno detholiad o’r fonolog ‘Tagu’r Ci’ sydd yn y casgliad…