Fe fydd criw o gerddorion a beirdd o Wlad y Basg yn cyd-berfformio â rhai o Gymru mewn cyfres o sesiynau a fydd yn cael eu cynnal mewn tafarndai ledled y wlad rhwng heddiw a’r penwythnos.

Mae’r sesiynau, dan yr enw ymbarel Zubiko Banda, wedi’u trefnu gan Meic Llywelyn, a’r bwriad yw cyflwyno amrywiaeth o gerddoriaeth a barddoniaeth draddodiadol o ddau ddiwylliant gwahanol.

Y Cymry a fydd yn perfformio yw Gwilym Bowen Rhys, Iestyn Tyne, Osian Morris, Nicolas Davalan ac Alaw Fflur Jones; gyda’r Basgwyr Mixel Ducau, Urko Arazeka, Izar Garwendia ac Arrate IIlaro gyda nhw.

Taith gyfnewid

“Fe aeth criw ohonan ni draw i Wlad y Basg fis Hydref dwytha’ dan y teitl ‘Blas o Gymru’, a cheisio creu rhyw fath o suticase o berfformiada’ traddodiadol Cymraeg – gyda barddoniaeth a cherddoriaeth ac yn y blaen”, meddai Iestyn Tyne.

“Mi wnaethon ni gyfarfod â nifer o bobol yn fan’no, pobol a oedd yn gerddorion traddodiadol o Wlad y Basg, ac wedyn fe wnaeth un peth arwain at y llall, ac rydyn ni wedi gallu gwahodd rhai ohonyn nhw i Gymru i gydweithio gyda ni – fel rhyw fath o exchange.”

 

Fe fydd y perfformiad cyntaf yn Nhafarn y Fic yn Llithfaen heno, cyn mynd ar daith i’r Llew Gwyn yn Nhal-y-bont (Ceredigion) nos Wener; a’r Dovey Arms, Glantwymyn nos Sadwrn.