Mae tri beirniad cystadleuaeth Gymraeg Llyfr y Flwyddyn wedi rhybuddio y bydd y byd llyfrau yng Nghymru’n cael ei dlodi os bydd Gwasg y Brifysgol yn colli ei grant Cymreig.

Maen nhw’n dweud y bydd penderfyniad y Cyngor Cyllido Addysg Uwch i roi’r gorau i gefnogi’r wasg yn “amddifadu’r farchnad lyfrau Cymraeg o rai o’i theitlau mwyaf safonol”.

Mae’r tri – yr academyddion Gerwyn Wiliams a Simon Brooks, a’r ddarlledwraig Kate Crockett – yn dweud y bydd colled o ran llyfrau safonol os bydd y Wasg yn methu â chyhoeddi llyfrau Cymraeg am hanes a diwylliant.

Maen nhw’n tynnu sylw at nifer o lyfrau gan y Wasg sydd wedi bod ar restr fer Llyfr y Flwyddyn yn y gorffennol.

“Nid ar y byd academaidd yn unig y mae’r penderfyniad hwn yn effeithio,” medden nhw. “ Mae peryg gwirioneddol na welwn ni mewn print rai o’r llyfrau mwyaf safonol a gyhoeddir yn y Gymraeg, gweithiau gan arbenigwyr yn eu maes sy’n cynnig addysg a difyrrwch i ddarllenwyr cyffredin.”

Dadl y Cyngor Cyllido

Mae’r Cyngor Cyllido’n dadlau nad eu rôl nhw yw cynnal cyhoeddi ac maen nhw’n bwriadu trosglwyddo’r arian – gwerth £132,000 eleni – yn uniongyrchol i brifysgolion i gefnogi gwaith ymchwil.

Am dair blynedd, fe fydd yr arian hwnnw’n cael ei gyfyngu i waith ym maes hanes a diwylliant Cymru ond dewis y Prifysgolion fydd defnyddio Gwasg Prifysgol Cymru – neu beidio.

Yn ôl y Cyngor, fydd hynny ddim yn cael effaith fawr ar y byd llyfrau Cymraeg – maen nhw’n dweud mai dim ond tri llyfr Cymraeg sydd wedi eu cyhoeddi gan y Wasg yn ystod y ddwy flynedd ddiwetha’.