Gillian Clarke
Fe fydd Bardd Cenedlaethol Cymru’n derbyn Medal Aur y Frenhines am Farddoniaeth – yr ail o Gymru i wneud hynny.

Fe fydd Gillian Clarke, sy’n byw ger Talgarreg yng Ngheredigion, yn derbyn y wobr yn y flwyddyn newydd am gyfraniad blynyddoedd i farddoniaeth.

Yn ôl Bardd Cenedlaethol Prydain, Carol Ann Duffy – cadeirydd y panel beirniaid – mae barddoniaeth y Gymraes 73 oed “yn rhan o dirwedd y wlad hon”.

“Rhyddid a chyfyngu – wrth sgrifennu am ferched, ecoleg, gwleidyddiaeth neu’r byd naturiol – dyna nodweddion unigryw celfyddyd Gilian Clarke,” meddai.

Dwsin o gyfrolau

Mae wedi cyhoeddi tua dwsin o gyfrolau barddoniaeth ac yn ôl y beirniad, y ddiweddara’, A Recipe for Water, oedd penllanw ei gwaith.

Mae Gillian Clarke wedi dysgu Cymraeg yn rhugl ac mae’n cyfieithu barddoniaeth Gymraeg i’r Saesneg – yn enwedig gwaith ei ffrind, Menna Elfyn.

Mae hefyd wedi sgrifennu am ei pherthynas gymhleth gyda’i rhieni – ei mam ddi-Gymraeg a’i thad a oedd yn siarad yr iaith.

R.S. Thomas yw’r unig fardd arall o Gymru sydd wedi ennill y Fedal ers ei dechrau yn 1934. Roedd hynny yn 1964.