Mae deiseb ar-lein yn ceisio codi £1,000 er mwyn gwobrwyo doniau merched yng Nghymru sy’n canu neu’n adrodd storïau.

Mae’r wobr yn cael ei chynnal er cof am y gantores a’r actores Esyllt Harker o Benbedw ac a oedd yn perfformio yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Bu farw’r actores yn 2014 ar ôl dioddef o gancr ac wedi hynny fe gynhaliodd Gŵyl Ryngwladol ‘Beyond the Border’ fwrsari er cof amdani yn 2016.

Y flwyddyn honno enillodd y gantores a’r storiwraig o Gaerdydd, Tamar Eluned Williams, y wobr ac mae rhai o ffrindiau Esyllt Harker am gynnal y wobr unwaith eto yn 2018.

Yn ôl y ddeiseb, byddai’r wobr yn ffordd i gyfrannu “tuag at ddyfodol celf adrodd stori yng Nghymru” ac yn gyfle i gofio am “storiwraig ardderchog.”