Mae awdur o Borthmadog wedi cyhoeddi pum nofel mewn blwyddyn, ac mae ganddo bedair arall ar y gweill.

Fe gafodd Gareth F Williams yrfa lewyrchus ym myd teledu am ddegawdau, cyn i’r gwaith sychu’n grimp tua phum mlynedd nôl.

Yn ystod ei gyfnod yn adran Adloniant Ysgafn HTV yn niwedd y 1980au, fe fyddai’n sgriptio Ffalabalam ac yn sgrifennu caneuon i Margaret Williams a Trebor Edwards.

Roedd yn un o sylfaenwyr y cyfresi Rownd a Rownd a Pengelli, ac yn gyfrifol am y gyfres Pen Tennyn. Enillodd Bafta am ei ffilm Siôn a Siân yn 2003.

Ond ers pum mlynedd mae’n sgrifennu nofelau fflat owt. Sgrifennodd docyn o nofelau i blant a phobol ifanc – ac ennill Gwobr Tir na n’Og deirgwaith – cyn troi at nofelau oedolion.

“Dw i’n ffodus,” meddai’r awdur, sy’n byw yn y Beddau ger Pontypridd, “fedra’ i droi at sgwennu llyfrau. Mae lot o bobol sy’n sgriptio ar gyfer teledu, mond ar gyfer teledu maen nhw’n gallu gwneud.”

‘War and Peace’

Cyhoeddodd y nofel fer Tacsi i’r Tywyllwch yn y gyfres ‘Stori Sydyn’ ym mis Chwefror 2007. Yna, yn yr hydref, cyhoeddodd y gyntaf o ddwy nofel, yn darlunio bywydau dyn a dynes wedi iddyn nhw gyfarfod ar blatfform trên Cyffordd Dyfi yn 1965.

Daeth dilyniant i Dyfi Jyncshiyn: Y Dyn Blin yn 2009, sef Dyfi Jyncshiyn: Y Ddynes yn yr Haul. Fe gafodd y ddwy eu canmol gan adolygwyr am fod yn nofelau difyr a darllenadwy.

“Mewn ffordd mae hi’n haws sgrifennu dilyniant. Mae’r prif gymeriadau wedi’u creu. Ond doedd o ddim i fod i ddigwydd efo Dyfi Jyncshiyn. Fi oedd wedi gor-sgwennu ac roedd Gwasg Gwynedd yn gyndyn o gyhoeddi nofel reit debyg i War and Peace!”

Ond, eleni, trwy gyd-ddigwyddiad, fe garlamodd pum nofel, fesul un, o stabl sgrifennu Gareth F.

Yn gyntaf, nofel dditectif i’r ifanc, Gweld y Gwanwyn, ac yna dwy nofel i Gyfres y Dderwen gan y Lolfa o’r enw Y Ddwy Lisa: Y Dylluan Arall a Cysgod yr Hebog.

Wedyn cyhoeddodd nofel i oedolion Mei Ling a Meirion, wedi’i gosod ym Mhorthmadog yn 1968.

Ac mae newydd gyhoeddi’r bumed nofel eleni, sef Creigiau Aberdaron (dde).

“Nofel am gariad,” yn ôl yr awdur, “am bobol sy’n methu cysylltu â’i gilydd, am rwystredigaeth cariad, a hefyd am gwymp teulu sydd wastad wedi bod yn hunangyfiawn o ddiogel.”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 9 Rhagfyr