Simon Brooks
Yn ôl un o feirniaid cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn eleni, mae rhyddiaith yn y Gymraeg ar ei gorau erioed ar hyn o bryd.

Ond yn ôl Simon Brooks mae angen cefnogaeth ariannol ar ysgrifennwyr er mwyn sicrhau bywoliaeth drwy’r Gymraeg.

Roedd yn siarad â Golwg yn y seremoni lle enillodd Ned Thomas y brif wobr am ei lyfr  Bydoedd: Cofiant Cyfnod. Yn ôl Simon Brooks mae hwn yn gyfnod yr “oes aur”.

“Dw i’n credu bod y nofel Gymraeg, rhyddiaith Gymraeg a dweud y gwir, gan gynnwys cofiannau hefyd yn y diffiniad yna gan mai Ned sydd wedi ennill, y gorau mae wedi bod yn y Gymraeg erioed.

“Wrth reswm mae llyfrau gwych iawn yn y gorffennol. Ond llyfrau yn cael eu cyhoeddi ar eu pen eu hunain oedden nhw i raddau helaeth. Mae rhywun yn meddwl am Un nos Ola Leuad, nofelau Kate Roberts er enghraifft.

“Ond ar hyn o bryd mae gennym ni gnwd o lyfrau a nofelau gwych yn ymddangos yn y Gymraeg. A dw i’n credu bod hynny yn digwydd, y safon mor uchel, mor gyson, am y tro cyntaf yn ein diwylliant,” meddai.

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 14 Gorffennaf