Kate Roberts
Cofiant “edmygus” ond “dadlennol iawn” fydd cofiant newydd ar Kate Roberts gan Alan Llwyd.

“Mae gen i dystiolaeth yn dangos y pethau da rhyfeddol y mae hi wedi’i wneud,” meddai.

Bydd y cofiant ar yr un fformat â chofiant swmpus Rhys Evans i Gwynfor Evans, Rhag Pob Brad, yn 2005.

Dyw’r awdur ddim yn cael datgelu pa “[b]ethau dadlennol am fywyd a gwaith” Kate Roberts sydd wedi dod i’r fei.

“Dw i wedi ymchwilio yn drylwyr,” meddai Alan Llwyd. “Mae o yn gofiant edmygus. Dydi pobol ddim wedi gwir werthfawrogi Kate Roberts; nid fel llenor dw i’n sôn amdano fo, ond fel person.

“Mae lot o bigo beiau wedi bod, a bod y Kate hŷn yn cysgodi’r Kate ifanc. Roedd hi’n ddynes ddyngarol, garedig. Roedd hi’n gymwynaswraig fawr, ac elfen gadarnhaol iawn, iawn iddi hi.

“Roedd hi’n berson egwyddorol a chydwybodol. Mae hwnna eisiau cael ei ddweud.”

Drallenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 23 Mehefin