Mae cymdeithas lenyddol yn siomedig gyda’r nifer fechan o bobol sy’n rhoi cynnig ar gystadleuaeth sgrifennu stori fer.

Ers tair blynedd, mae Cymdeithas Ddathlu Allen Raine yn cynnig gwobr o £200 ar gyfer y stori fer orau yn y Gymraeg ac yn Saesneg.

Ond y llynedd ni chafwyd unrhyw gystadleuwyr Cymraeg, tra bod y categori Saesneg wedi denu tua 40.

“Roedd hi’n flwyddyn ofnadwy,” meddai Carol Byrne Jones, ysgrifennydd y Gymdeithas sydd wedi’i sefydlu er cof am yr awdures o  Gastell Newydd Emlyn.

“Dw i’n awyddus iawn ein bod ni’n cael cystadleuwyr. Mae’r ochr Saesneg ar gynnydd tra bod yr ochr Gymraeg yn wan.

“Mewn ffordd, mae hi’n anoddach gwneud stori fer dda. Mae hi fel creu englyn, rhaid bod disgyblaeth a chrefft,” meddai Carol Byrne Jones.

Y beirniad Cymraeg eleni yw’r awdur a’r golygydd Emyr Llywelyn a Katie Gramich, darllenydd mewn Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Drallenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 23 Mehefin