Oherwydd ei fod mor boblogaidd, mae theatr Bara Caws wedi trefnu perfformiad ychwanegol o’i gynhyrchiad diweddaraf.

Bydd cyfle ychwanegol i weld addasiad llwyfan y cwmni o’r nofel fawr ‘Un Nos Olau Leuad’ ar nos Fawrth, 12 Ebrill yn Y Galeri, Caernarfon.

“Mae’r ymateb i’r cynhyrchiad yma wedi bod yn rhyfeddol,” meddai Linda Brown, gweinyddydd Bara Caws, wrth Golwg360.

“Rydan ni wedi bod yn chwarae i dai llawn drwy gydol y daith ac mae niferoedd lawer o bobol wedi cysylltu â ni yn awyddus i weld y sioe cyn iddi gau.”

Ar ôl y perfformiad hwn, fe fydd Bara Caws yn dechrau paratoi ar gyfer  yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam.  Yn y dref hon yn 1977 y cyflwynodd Bara Caws ei sioe glybiau gyntaf erioed, sef ‘Croeso i’r Roial’.

Mae’r cwmni’n awyddus i “ddathlu’r ail-ymweliad drwy gyflwyno dwy sioe arbennig,”  yn ôl Linda Brown.

Bryn Fôn a Tudur Owen

“Yng nghlwb y RAFA ar gyrion y maes, bydd Bara Caws yn cyflwyno sioe glybiau gan y digrifwr Eilir Jones – ‘Un Fach Flewog’ –  gyda’r hen stejars poblogaidd Bryn Fôn, Maldwyn John, Gwenno Ellis Hodgkins, Catrin Mara ac Iwan Charles a John Glyn yn barod i gymryd yr awenau fel cyfarwyddwr,” meddai Linda Brown.

Fe fydd ail sioe’r cwmni ‘ X’Fod! ‘yn cael ei pherfformio yn y maes carafanau gyda chast sy’n cynnwys  Iwan John, Catrin Jane Evans, Lisa Jên, Neil (Maffia) Williams ac Arwyn Jones. Tudur Owen a Tony Llewelyn sy’n sgwennu’r sioe gyda Martin Thomas yn ceisio cadw trefn ar bethau.

Roedd Linda Brown yn annog pobl i brysuro âg archebu tocynnau gan ychwanegu “‘y basa’n bechod gorfod disgwyl 34 mlynedd arall am y profiad”.