Mae drama arbennig yn cael ei llwyfannu a’i darlledu ar y we heddiw i gofio’r bardd o Abertawe, Vernon Watkins fu farw union hanner can mlynedd yn ôl.

Dyma’r tro cyntaf i Kardomah Voices, a gafodd ei hysgrifennu gan weddw’r bardd Gwen, gael ei llwyfannu yn unrhyw le yn y byd.

Y canwr Mal Pope sydd yn gyfrifol am y cynhyrchiad yn The Hyst ar Stryd Fawr Abertawe, sy’n cael ei darlledu ar y we drwy Facebook Live.

Sgwrs rhwng y pedwar aelod o’r Kardomah Boys – Vernon Watkins, Dylan Thomas, Alfred Janes a Tom Walker – yw sail y ddrama sy’n serennu Melanie Walters, Adrian Metcalf a Kevin Johns.

Pwy oedd Vernon Watkins?

Bardd, cyfieithydd ac arlunydd a gafodd ei eni ym Maesteg yn 1906.

Cafodd ei addysg yn Ysgol Repton a Phrifysgol Caergrawnt cyn mynd yn weithiwr mewn banc yng Nghaerdydd.

Daeth yn gyfaill i Dylan Thomas yn 1935.

Adeg yr Ail Ryfel Byd, fe fu’n gweithio ym Mharc Bletchley fel rhan o’r tîm oedd yn ceisio torri cod y Natsïaid.

Derbyniodd Radd er Anrhydedd gan Brifysgol Cymru.

Bu farw yn 1967.

Mae plac glas iddo yn Abertawe ers sawl blwyddyn ac ymhlith ei gefnogwyr mwyaf mae cyn-Archesgob Caergaint, Dr Rowan Williams, un arall o frodorion y ddinas.