Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn cael ei chyhoeddi ddydd Mawrth, Hydref 10 eleni.

Fe fydd y Rhestr Fer yn cynnwys tri llyfr ym mhob un o’r categorïau canlynol yn y Gymraeg a’r Saesneg: Barddoniaeth, Ffuglen, a Ffeithiol Greadigol.

Ac fe fydd seremoni i wobrwyo’r enillwyr yn cael ei chynnal yn Tramshed, Caerdydd, nos Lun, Tachwedd 13.

Mae cyfanswm o ddeg gwobr, meddai Llenyddiaeth Cymru, gyda chyfanswm o £12,000 o wobrau ariannol.

Yn Gymraeg ac yn Saesneg mae tri enillydd categori, un enillydd Barn y Bobl ac un prif enillydd. bydd enillwyr y tri chategori yn derbyn gwobr o £1,000, a bydd prif enillydd pob iaith yn derbyn gwobr ychwanegol o £3,000.