Waldo Williams
Mae cymdeithas gafodd ei sefydlu i gofio’r bardd, Waldo Williams, yn annog ysgolion uwchradd ledled Cymru i gynnal darllediad o’i gerdd ‘Cofio’ yn eu gwasanaethau ar ddiwedd y mis.

Bydd Diwrnod Waldo yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn, Medi 30, a gobaith Cymdeithas Waldo yw y bydd ysgolion yn cynnwys darlleniad yn eu gwasanaethau boreol ar y dydd Gwener (Medi 29).

Mae’r gymdeithas wedi treulio degawd yn annog ysgolion i fabwysiadu’r arfer, a bellach mae nifer o ysgolion yn cynnal y darllediad “o’i liwt ei hunain” yn ôl yr aelod, Hefin Wyn.

“Mae e’n fardd i bawb ac ar wahân i’r cerddi dwfn ac mae ganddo fe gerddi plant sydd yn oesol eu hapêl dw i’n meddwl,” meddai Hefin Wyn wrth golwg360.

O ran dewis y gerdd mae’r aelod yn nodi ei bod yn “gyfarwydd a sentimental ar ryw olwg” ac yn “gerdd gyfoethog ei chynnwys a’i hystyr.”

Cofio Waldo

I nodi diwrnod Waldo, bydd darlith flynyddol yn cael ei chynnal yng Nghapel Hermon, Abergwaun, lle fydd y darlithydd gwadd Robert Rhys yn trafod y bardd.

Hefyd, celf ar y thema ‘Un funud fwyn’ – cyfeiriad at y gerdd ‘Cofio’ – wedi cael ei harddangos yn Oriel Peppers, Abergwaun trwy gydol y mis hwn. 

Cafodd Waldo Williams ei eni yn Hwlffordd, Sir Benfro, ar Fedi 30, 1904.