Her 100 cerdd 2017 (Lluniau unigol Golwg360)
Mae pedwar bardd wedi cytuno i gymryd rhan yn her flynyddol Llenyddiaeth Cymru i lunio 100 o gerddi mewn 24 awr yr wythnos nesaf.

Y pedwar fydd y bardd a’r newyddiadurwraig Karen Owen; y Prifardd Rhys Iorwerth o Gaernarfon, Iestyn Tyne o Ben Llŷn, a Gwynfor Dafydd o Donyrefail.

Fe fydd disgwyl iddyn nhw lunio cant o gerddi mewn 24 awr gan ymateb i geisiadau’r cyhoedd ar y we.

‘Cipolwg ar Gymru’

Dyma’r pumed tro i’r her gael ei chynnal ers ei sefydlu yn 2012 ac, yn ôl Llenyddiaeth Cymru, mae’r cerddi wedi “cynnig cipolwg ar y Gymru sy’n bodoli ar y diwrnod hwnnw – ei gwleidyddiaeth, ei diddordebau, ei newyddion a’i diwylliant.”

Fe fydd y pedwar yn ymgynnull yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy rhwng hanner dydd Medi 27 a hanner dydd Medi 28 i gyflawni’r her.

Her 100 Cerdd – y blynyddoedd a fu

  • 2012 – Eurig Salisbury, Osian Rhys Jones, Iwan Rhys a Hywel Griffiths
  • 2013 – Elis Dafydd, Gruffudd Antur, Siôn Pennar ac Elan Grug Muse
  • 2014 – Casia Wiliam, Gruffudd Owen, Gwennan Evans a Llŷr Gwyn Lewis
  • 2015 – seibiant
  • 2016 – Twm Morys, Gwyneth Glyn, Aneirin Karadog ac Anni Llŷn
  • 2017 – Karen Owen, Rhys Iorwerth, Iestyn Tyne, Gwynfor Dafydd