Cadair Eisteddfod Genedlaethol Ynys Mon (Llun - Geraint Thomas)
Arwyn Groe ac Annes Glynn oedd dau o’r beirdd eraill yn y grwp o bump ar frig cystadleuaeth y Gadair ym mhrifwyl Ynys Môn eleni.

Fe gyhoeddodd golwg360 eisoes mai Llyr Gwyn Lewis oedd yn ail.

Y ffermwr o Faldwyn, Arwyn ‘Groe’ Davies, oedd yr awdur dan y ffugenw ‘Bwlch y Gelli’, ac mae ei awdl yn gosod yr amaethwr yn arwr.

Mewn cerdd o bedwar caniad – ‘Geni’, ‘Iwtopia’, ‘Distopia’ a ‘Gwanio’ mae’n cyd-osod blwyddyn y fferm â bywyd Cymru a’r byd. Mae plant y ffermwr yn y gerdd yn chwarae rhyfela ar y buarth; tra bod byw yng nghefn gwlad yn braf, ond fod byd natur mor greulon.

Gwyn Thomas yw’r arwr

‘Am Ryw Hyd’ oedd ffugenw Annes Glynn yn y gystadleuaeth eleni – a hynny ar ei mam ynys. Er mai yn Rhiwlas ger Bangor y mae hi’n byw ers blynyddoedd, un o ferched Brynsiencyn ydi hi.

Yn ei cherdd – yr oedd y beirniad yn cyfeirio ati fel “casgliad” yn hytrach nag un cyfanwaith o awdl – mae hi’n talu teyrnged i’r diweddar Gwyn Thomas, ac yn “sôn am hen ddyhead cenedl y Cymry am arwr i’w harwain”.

Yn ôl y beirniaid, mae ‘Am Ryw Hyd’ wedi seilio’i gwaith ar rai o gerddi mwyaf adnabyddus Gwyn Thomas.