Fe fydd mwy o bwyslais ar feithrin awduron newydd a mwy o gyfleoedd mentora mewn cynlluniau nawdd sydd wedi cael eu cyhoeddi gan y corff llenyddol, Llenyddiaeth Cymru.

Yn dilyn cyfres o ymgyngoriadau gydag awduron a’r cyhoedd y llynedd, mae’r newidiadau’n cynnwys

  • clustnodi pum ysgoloriaeth ar gyfer awduron newydd (rhai heb gyhoeddi eu gwaith)
  • clustnodi un ysgoloriaeth ar gyfer awdur o dan 25
  • rheol newydd, lle bydd rhaid cael bwlch o dair blynedd rhwng ysgoloriaethau
  • Swm benodol o £3,000 yr un i bob awdur
  • Cynyddu nifer safleoedd Mentora o 4 i 10

Ers 2004, mae Llenyddiaeth Cymru wedi dosbarthu dros £1.2 miliwn o Ysgoloriaethau, gan gefnogi 259 o awduron trwy Gymru gyfan, gan arwain at gyhoeddi 126 o lyfrau ac 16 o erthyglau.

Mae’r cynllun nawdd ei newydd wedd wedi agor ac mae canllawiau llawn a ffurflenni cais ar ei gyfer ar gael i’w lawrlwytho o wefan Llenyddiaeth Cymru: YsgoloriaethauMentora.

Y dyddiad cau 5.00 pm, Dydd Mercher 16 Awst 2017.