Clawr y gyfrol, Flame in the Mountains
Mae cyfrol newydd yn cael ei chyhoeddi’r haf hwn i goffáu dau o brif emynwyr Cymru – sef William Williams Pantycelyn ac Ann Griffiths.

A hithau’n 300 mlynedd ers geni Williams Pantycelyn mae beirniadaeth wedi bod am y diffyg dathliadau cyhoeddus i nodi’r garreg filltir.

Mae’r gyfrol Flame in the Mountains gan yr arbenigwr H. A. Hodges yn gyfrol Saesneg ei hiaith gan wasg y Lolfa ac wedi’i golygu gan yr Athro E Wyn James.

Mae’n dwyn ynghyd nodiadau ar emynau’r ddau ynghyd â thrafodaeth ar yr ‘Emyn Cymraeg’, ac mae’n cynnwys cyfieithiad o ddarlith Saunders Lewis yn 1965 ar waith Ann Griffiths.

Yn ôl gwasg Y Lolfa, bwriad y gyfrol yw gosod yr emynwyr “mewn cyd-destun Cymreig a rhyngwladol” gan roi cyflwyniad i waith y ddau a darparu “mewnwelediad gwerthfawr” i rai sy’n dymuno astudio eu gwaith ymhellach.

‘Awduron eithriadol’

“Mae’r emyn yn un o uchafbwyntiau mawr llenyddiaeth Gymraeg, ac mae’r ddau mwyaf eithriadol o’r holl emynwyr Cymraeg, William Williams (1717-1791) Pantycelyn ac Ann Griffiths (1776-1805), nid yn unig yn gewri o fywyd llenyddol, diwylliannol a chrefyddol Cymru, ond hefyd yn ffigurau o arwyddocâd a statws rhyngwladol,” meddai’r golygydd E Wyn James.

“Mae ysgrifen yr Athro Hodges yn gyfraniad pwysig i’n dealltwriaeth o’r awduron eithriadol hyn,” ychwanegodd.

Dysgodd H A Hodges (1905-1976) Gymraeg er mwyn astudio emynyddiaeth Gymraeg ag yntau’n Athro Athroniaeth ym Mhrifysgol Reading.

Dywedodd ei fod wedi darganfod “byd newydd” i’w hun wrth archwilio llenyddiaeth Gymraeg.