Paddington (Llun: www.paddington.com)
Daeth cadarnhad gan y cwmni cyhoeddi HarperCollins fod Michael Bond, awdur llyfrau Paddington yr arth, wedi marw yn 91 oed.

Dywedodd y cwmni mewn datganiad ei fod e wedi bod yn sâl am gyfnod byr, a’i fod e wedi marw yn ei gartref.

Mae’n gadael gwraig, Sue a dau o blant, Karen ac Anthony.

Hanes Paddington

Dyn camera oedd Michael Bond pan greodd e gymeriad Paddington yn 1956, ac fe gafodd ei lyfr cyntaf, A Bear Called Paddington ei gyhoeddi yn 1958.

Fe gyhoeddodd yr awdur dros 150 o lyfrau, a 25 o straeon eraill am yr arth o Beriw sy’n bwyta marmalêd

Gweithiau eraill

Michael Bond hefyd oedd awdur y gyfres deledu The Herbs, llyfrau Olga da Polga yn seiliedig ar ei fochyn cwta, a chyfres o nofelau ditectif i oedolion am y cymeriad Monsieur Pamplemousse.

Dywedodd Stephen Fry fod Michael Bond “mor garedig, urddasol, hawddgar a chariadus â’r Paddington anfarwol a roddodd i ni”.

Ychwanegodd David Walliams mai Michael Bond “oedd Paddington”.