Llyfr Harry Potter a Maen yr Athronydd
Mae’n ugain mlynedd i’r diwrnod ers i’r awdures JK Rowling gyhoeddi’r gyntaf o’i chyfres o lyfrau am y cymeriad hudolus, Harry Potter.

Erbyn hyn mae’r gyfrol gyntaf Harry Potter and the Philosopher’s Stone wedi gwerthu mwy na 450 miliwn o gopïau ledled y byd, ac wedi’i chyfieithu i 79 o ieithoedd.

Un o’r rheiny yw’r Gymraeg, wedi i Emily Huws gyhoeddi addasiad Harri Potter a Maen yr Athronydd yn 2010.

Mae’r gyfres o saith o lyfrau wedi arwain at ffilmiau, parciau antur, stiwdios a chyfres eang o ddeunydd memorobilia.

Mae’n debyg i JK Rowling ysgrifennu’r llyfr cyntaf mewn caffi yng Nghaeredin, sef Elephant House, sydd wedi dod yn atynfa boblogaidd ers hynny.

Cafodd y ffilm gyntaf ei rhyddhau yn 2001 gyda Daniel Radcliffe yn ymddangos ynddi ar y cyd ag Emma Watson a Rupert Grint.