Cyfrinach Nana Crwca, Gwasg Atebol
Mae’r llyfr i blant, Cyfrinach Nana Crwca, wedi’i enwebu am wobr ryngwladol wedi i  Sefydliad Brenhinol Cenedlaethol y Deillion (RNIB Cymru) greu fersiwn llafar ohono.

Yr actores Hanna Jarman sydd wedi lleisio’r darn, a hynny wedi i’r llyfr gael ei addasu i’r Gymraeg gan y bardd Gruffudd Antur a’i gyhoeddi gan wasg Atebol yn 2014.

Mae’r addasiad yn seiliedig ar lyfr Gangsta Granny gan y diddanwr David Walliams, gyda’r fersiwn Cymraeg wedi gwerthu mwy na 4,000 o gopïau hyd yn hyn.

‘Newyddion gwych’

Bydd y seremoni yn cael ei chynnal heno ym Manhattan, Efrog Newydd, gyda’r llyfr ar restr fer y wobr Darlleniad Unigol Gorau yng ngwobrau Rhaglenni Radio Gorau’r Byd 2017.

“Mae hyn yn newyddion gwych,” meddai Glyn Saunders-Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Atebol.

“Yr awdur ifanc a thalentog Gruffudd Antur aeth ati i wneud yr addasiad Cymraeg i Atebol, ac mae’r enwebiad yn tystiolaethu bod hwn yn awdur gwych sy’n apelio at ddarllenwyr ifanc,” meddai.

Mae gan RNIB Cymru 25,000 o deitlau wedi eu haddasu ar gyfer y deillion, gyda’r copïau am ddim ar eu llyfrgell ar-lein.

“Mae fersiwn digidol yr RNIB wedi caniatáu i farchnad newydd a phwysig gael mynediad i’r addasiad gwych hwn, sy’n tanlinellu pwysigrwydd eu gwaith yma yng Nghymru a thu hwnt,” meddai Glyn Saudners-Jones.