Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi croesawu’r adroddiad ar ddyfodol y byd cyhoeddi a llenyddiaeth yng Nghymru a gafodd ei gyhoeddi ddoe (Mehefin 13).

Mae’r adroddiad hwnnw’n argymell y dylai’r Cyngor gymryd drosodd peth o’r gwaith y mae Llenyddiaeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd – yn cynnwys “datblygu strategaeth ddigidol” a “datblygu cynhwysiant pobol”, gan gydweithio â’r strategaeth tlodi plant.

Mae’n debyg y gallen nhw hefyd gymryd rhai o gyfrifoldebau Llenyddiaeth Cymru gan gynnwys rheolaeth dros gystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn, bwrsariaethau, gwyliau llenyddol a Llenorion ar Daith a’r ddarpariaeth ar gyfer plant a phobol ifanc.

O ganlyniad i’r newidiadau hyn, fe allai’r Cyngor wynebu’r posibilrwydd o newid eu henw i adlewyrchu eu cyfrifoldebau newydd.

Datganiad

Mae’r Cyngor Llyfrau wedi cydnabod fod yr argymhellion yn gyfle i “ehangu sylweddol ar gylch gwaith y Cyngor” ac y byddan nhw’n ymateb yn fanylach “maes o law”.

“Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda’r holl randdeiliaid, gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru a Llenyddiaeth Cymru, er mwyn adeiladu ymhellach ar yr hyn sydd eisoes wedi’i gyflawni dan ein cynlluniau amrywiol ac rydym yn croesawu’r cyfle i ehangu ymhellach ar ein gwaith ym maes tlodi plant gan gefnogi agenda cynhwysiant Llywodraeth Cymru,” meddai datganiad gan Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru.